Y Farchnad

Cyhoeddwyd 08/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/05/2024   |   Amser darllen munudau

Beth yw y Farchnad?

Bydd cynrychiolwyr sefydliadau o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan, a bydd cyfle i chi gynnal stondin ar batrwm marchnad, lle gall gwesteion ac Aelodau o'r Senedd alw heibio a chwrdd â’r sefydliadau sy'n cymryd rhan drwy gydol y dydd. 

Ar gyfer pwy mae'r Farchnad?

Bydd Y Farchnad yn dod ag amrywiaeth o faterion, grwpiau cymunedol a phynciau i’r amlwg, gyda chynrychiolwyr yn cynnal stondinau mewn marchnadle lle y gall gwesteion alw heibio a chwrdd â’r sefydliadau sy’n cymryd rhan ar y diwrnod hwnnw.

Ble?

Bydd Y Farchnad yn cael ei chynnal yn yr Oriel, y Senedd.

Darllenwch fwy am sut i gyrraedd y Senedd.

Pryd?

Bydd Y Farchnad yn cael ei chynnal ar y trydydd dydd Mawrth ym mhob mis, yn lle’r sesiynau galw heibio cyson a gynhelid gan sefydliadau yn ystafelloedd bwyta Tŷ Hywel.

Gwybodaeth i sefydliadau

  • Bydd pob sefydliad yn cael bwrdd sydd â lle i faner godi o faint safonol.
  • Gall sefydliadau ddod â deunyddiau gwybodaeth megis taflenni neu adroddiadau a'u dyfais eu hunain, megis gliniadur.
  • Mae Wi-Fi ar gael i bob gwestai, ond ni ellir gwarantu mynediad at ffynonellau trydan ar y safle. Ni fydd cymorth clyweledol yn cael ei ddarparu.
  • Gall sefydliadau archebu detholiad bach o frechdanau neu bice ar y maen drwy ein cyflenwr arlwyo ar gyfer eu stondinau. Rhoddir rhagor o wybodaeth am hyn pan fydd eich bwrdd wedi'i archebu.

I gymryd rhan yn Y Farchnad, rhaid i sefydliadau sicrhau bod ganddynt Nawdd Aelod. Mae croeso i Aelodau noddi mwy nag un sefydliad mewn digwyddiad.

Barod i gymryd rhan?

Llenwch ffurflen gais

Ceir rhagor o wybodaeth am ein fformat Marchnad ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.