Y Senedd yn barod i groesawu Mistar Urdd a’i gyfeillion

Cyhoeddwyd 22/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2019

​Mae'r Senedd ac adeilad hanesyddol y Pierhead yn paratoi i groesawu miloedd o Eisteddfodwyr yr wythnos nesa', wrth ddod yn rhan o faes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 ym Mae Caerdydd.

Gydol yr wythnos, mi fydd y Senedd yn gartref i'r arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg, tra bydd y Pierhead yn troi'n Bafiliwn y Dysgwyr. Gyda hyd at 90,000 o bobl yn cael eu denu yn flynyddol i'r digwyddiad ieuenctid, mi fydd hi fel ffair yn y Bae rhwng 27 Mai a 1 Mehefin, gan ddwyn i gof wythnos prysur Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd.

Drwy'r wythnos, mi fydd rhai o aelodau'r Senedd Ieuenctid yn weithgar ar eu stondin yn y Senedd. Yno mi fydd cyfle i sgwrsio ac i ddysgu am y testunau y maen nhw fel Senedd wedi dewis blaenoriaethu yn ystod y ddwy flynedd nesaf: sef Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl, Sbwriel a Gwastraff Plastig, a Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm. Bydd holiadur ar gael i bobl ifanc ynghylch Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm, yn rhan o ymgynghoriad a fydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at waith y Senedd Ieuenctid ar y pwnc.

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, wedi ei gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaeth gyda rhai o aelodau'r Senedd Ieuenctid ar ddydd Iau 30 Mai. Y Llywydd, Elin Jones AC, sy'n cynnal y digwyddiad a fydd yn trin a thrafod gwaith y Senedd Ieuenctid gan edrych hefyd tua'r dyfodol, gyda charreg filltir 20 mlynedd ers datganoli a 18 mlynedd ers sefydlu Comisiynydd Plant Cymru yn gefndir. Pa ddatblygiadau o bwys sydd wedi bod yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, pha waith eto sydd i'w wneud er mwyn cwrdd â dyheadau pobl ifanc?

Wrth i weithgareddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i nodi 20 mlynedd o ddatganoli barhau, pobl ifanc fydd yn hawlio'r holl sylw yr wythnos nesa' meddai Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr y Cynulliad;

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu miloedd o bobl ifanc i fwynhau adeiladau'r Senedd a'r Pierhead yr wythnos nesa'. Hon fydd yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf ers sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru, ac yn naturiol mi fydd yr aelodau yn awyddus i fanteisio ar y cyfle i lysgenhadu a chasglu barn pobl ifanc ar y Maes. Mewn cyfnod pan ry' ni'n cofio 20 mlynedd ers datganoli i Gymru, yr wythnos nesa' y genhedlaeth nesaf fydd yn hawlio ein sylw; wrth i ni ddathlu eu galluoedd a thrafod gyda nhw am waith y Cynulliad a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol."

Mae'r Senedd yn edrych ymlaen at agoriad swyddogol yr arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg ynghyd â dadorchuddio gwaith enillwyr y Fedal a'r Ysgoloriaeth ar ddiwrnod cynta'r ŵyl, dydd Llun 27 Mai

Mi fydd dros 400 o ddarnau yn cael eu harddangos ar dri llawr y Senedd; yn ardal y Neuadd, yr Oriel a'r Cwrt. Mae'r gwaith wedi cael ei gyflwyno gan bobl ifanc creadigol o bob cornel o Gymru a thu hwnt, ac maent yn cynnwys darnau 2D a 3D, ffotograffiaeth, cerameg, gemwaith, ffasiwn, pypedau a mwy.

Wrth fwynhau'r arddangosfa, mi fydd ymwelwyr yn cael eu tywys i bob ardal o'r Senedd, gan gynnwys ardal y Cwrt sydd ddim fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Mi fydd drws y Siambr drafod led y pen ar agor hefyd, gyda chyfle arbennig i gael tynnu eich llun yn sedd y Llywydd. Mae'n gyfle i holi cwestiynau ac i ddysgu am waith y Cynulliad.

Yn adeilad hanesyddol y Pierhead fydd Pafiliwn y Dysgwyr eleni gyda gweithgareddau gydol yr wythnos i groesawu dysgwyr Cymraeg a'u teuluoedd.

Mi fydd y ddau adeilad yn ychwanegiadau ysblennydd at faes yr ŵyl eleni, yn ôl Morys Gruffydd, Trefnydd Eisteddfod yr Urdd 2019;

"Y mantais wrth gynnal yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd, yw ein bod ni'n gallu defnyddio ar yr adeiladau ysblennydd sydd ar hyd ei glannau er mwyn rhoi cartrefi gwahanol i rai o weithgareddau'r ŵyl eleni. Mi fyddwn ni a holl ymwelwyr â'r ŵyl yn teimlo'n gartrefol iawn yn y Senedd a'r Pierhead, diolch i'r croeso cynnes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru."

 

Mwy o wybodaeth am y gweithgareddau yn y Senedd yn ystod Eisteddfod yr Urdd: http://www.cynulliad.cymru/cy/visiting/whats-on/pages/urdd-2019.aspx

Gwefan 20 Mlynedd o Ddatganoli: https://datganoli20.cymru/

Gwefan Senedd Ieuenctid Cymru: https://www.seneddieuenctid.cymru/