Y Cynulliad yn ethol pwyllgor i ystyried deddfwriaeth arfaethedig ynghylch bwyta’n iach mewn ysgolion

Cyhoeddwyd 06/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn ethol pwyllgor i ystyried deddfwriaeth arfaethedig ynghylch bwyta’n iach mewn ysgolion

Mae’r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid sefydlu pwyllgor i graffu ar Fesur arfaethedig ynghylch bwyta’n iach mewn ysgolion. Cynigiwyd y Mesur gan Jenny Randerson AC, a enillodd falot sy’n rhoi’r cyfle i Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth.

Aelodau’r Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Bwyta’n Iach mewn Ysgolion fydd Jeff Cuthbert, Irene James, Dai Lloyd, Alun Cairns a Kirsty Williams. Swyddogaeth y pwyllgor fydd ystyried y Mesur arfaethedig ac adrodd yn ôl arno.

Mesur yw deddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad. Mae’n debyg i Ddeddf Seneddol. Gall y Cynulliad basio Mesurau ar unrhyw ‘fater’ a restrir yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys meysydd fel addysg a hyfforddiant, iechyd a llywodraeth leol.

Rhagor o wybodaeth ar ddeddfwriaeth:

Ceir rhagor o wybodaeth i newyddiadurwyr am swyddogaethau, cyfrifoldebau a phwerau deddfu newydd y Cynulliad yn ein pecyn ar-lein i’r cyfryngau.