Y Cynulliad Cenedlaethol yn penodi Cadeirydd ac Aelodau’r Bwrdd Taliadau

Cyhoeddwyd 22/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn penodi Cadeirydd ac Aelodau’r Bwrdd Taliadau

22 Medi 2010

Mewn cam pwysig arall tuag at sicrhau bod dulliau trwyadl ac annibynnol o benderfynu beth fydd tal Aelodau Cynulliad Cymru, cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw (22 Medi) pwy fydd Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd Taliadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Y Bwrdd fydd yn gyfrifol am bennu tal a lwfansau Aelodau’r Cynulliad.

Bydd y Bwrdd Taliadau annibynnol yn gyfrifol am sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad adnoddau teg a phriodol i wneud eu gwaith hanfodol o gynrychioli pobl Cymru, dwyn llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu ar gyfer Cymru. Wrth sefydlu’r Bwrdd newydd hwn, mae Comisiwn y Cynulliad ac Aelodau’r Cynulliad wedi dangos yn glir eu bod yn benderfynol o roi terfyn ar yr arfer o adael i Aelodau Cynulliad bennu eu tal a’u treuliau eu hunain.

Gwneir y penodiadau hyn ar ol i’w Mawrhydi y Frenhines roi cymeradwyaeth frenhinol i  Fesur (Taliadau) Cymru 2010 ym mis Gorffennaf.

Y bwrdd yn gryno:

Y Gwir Anrhydeddus George Reid - Cadeirydd

Gwleidydd, newyddiadurwr ac academydd o’r Alban, Aelod o’r Cyfrin Gyngor, cyn AS, cyn Aelod o Senedd yr Alban, Llywydd Senedd yr Alban a Chadeirydd Corff Corfforaethol Senedd yr Alban.  Gweithiodd mewn rhyfeloedd a thrychinebau am bymtheg mlynedd, pan oedd yn gyfarwyddwr mudiad rhyngwladol y Groes Goch/y Cilgant Coch.  Mae ei benodiadau presennol yn cynnwys Cynghorydd Annibynnol ar God Gweinidogol yr Alban, athro ar ymweliad ym Mhrifysgolion Glasgow a Stirling ac, o fis Hydref, Comisiynydd Etholaethol y DU. Yn ddiweddar, bu’n arwain adolygiadau strategol ar lywodraethu yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer yr Alban.

Rt Hon George Reid

Aelodau’r Bwrdd

Yr Athro Monojit Chatterji

Academydd sydd a chryn brofiad ym maes polisi cyhoeddus.  Mae wedi cyhoeddi gwaith ymchwil mewn meysydd sy’n cynnwys penderfynyddion taliadau’r sector cyhoeddus.  Yr Athro Chatterji yw Cadeirydd presennol Cyd-gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Tan ac Achosion Brys y DU (y corff negodi tal).  Cyn hynny, bu’n aelod o Gorff Adolygu Athrawon Ysgol, sy’n gwneud argymhellion i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau ar dal ac amodau, a threfniadau llywodraethu hefyd ar gyfer athrawon a phenaethiaid ysgolion yng Nghymru a Lloegr.  Mae hefyd yn aelod blaenorol o’r Grwp Economegwyr, Swyddfa Economeg y Gweithlu, yn ystyried materion trawsbleidiol yn ymwneud a thal yn y sector cyhoeddus.

Stuart Castledine

Cyfrifydd siartredig sydd wedi dal nifer o swyddi ariannol a rheoli cyffredinol o fewn Allied Dunbar, Chartered Trust a Chymdeithas Adeiladu’r Bristol and West cyn dod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau ariannol Tesco. Yn fwy diweddar, mae Stuart wedi ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau heriol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat gan helpu i sefydlu rhai mentrau a chynghreiriau sylweddol ar y cyd yn ogystal a bod yn gyfarwyddwr llwyddiannus i wella nifer o sefydliadau gwasanaethau ariannol. Ar hyn o bryd, mae’n gyfarwyddwr anweithredol o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mary Carter

Ymddeolodd Mary fel Partner o KPMG ym mis Medi 2008 ac mae’n aelod o Gorff Adolygu Tal y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd sy’n gwneud argymhellion i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ar gyflogau’r fyddin a thaliadau a lwfansau digolledu. Mae hefyd yn ymgynghorydd rhan-amser i KPMG. Mae’n gyfreithiwr yn ol ei chefndir ac mae wedi bod yn arbenigwr am fwy nag ugain mlynedd ym maes cynghori cwmniau’r DU a chwmniau y tu allan i’r DU ar daliadau a chymhellion i gyfarwyddwyr/uwch-reolwyr ac ar faterion cysylltiedig yn ymwneud a llywodraethu a threthu.

Sandy Blair CBE

Sandy yw cyfarwyddwr blaenorol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (fe ymddeolodd yn 2004). Mae wedi cael ei gyflogi mewn nifer o swyddi cyhoeddus ac wedi bod yn ymddiriedolwr cyrff cyhoeddus fel cyfarwyddwr anweithredol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Mynwy a swyddi o fewn yr Eglwys yng Nghymru. Roedd yn brif weithredwr awdurdod lleol am 16 mlynedd cyn cael ei benodi i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n Aelod o Bwyllgor Taliadau Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ac yn gyfreithiwr wrth ei alwedigaeth.

Wrth groesawu’r penodiadau, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad: “Rwyf yn falch ein bod wedi gallu penodi cadeirydd ac aelodau o’r radd flaenaf i’r bwrdd hwn sy’n ategiad pwysig i’n deddfwrfa. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen yn ein hymrwymiad hirdymor i sicrhau y gall pobl Cymru ymddiried yn llwyr yn uniondeb democratiaeth yng Nghymru.”

Dywedodd George Reid, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau: “Mewn cyfnod pan fo ymddiriedaeth pobl mewn gwleidyddiaeth yn isel, rwyf yn falch iawn o fod yn rhan o ymgyrch Cynulliad Cenedlaethol Cymru i adennill ffydd yn y broses ddemocrataidd. Fel Bwrdd, byddwn yn sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith a sicrhau, ar yr un pryd, y gall pobl Cymru fod yn hyderus bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau.”