Welsh media to come under Assembly spotlight

Cyhoeddwyd 30/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn troi ei sylw at y cyfryngau yng Nghymru

30 Medi 2011

Bydd ymchwiliad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio cyflwr presennol y sector cyfryngau yng Nghymru a’r hyn y gellir ei wneud i’w helpu.

Bydd grwp gorchwyl a gorffen, a sefydlwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn ystyried pob agwedd ar y cyfryngau yng Nghymru, o bapurau newydd, i’r teledu, y radio a’r cyfryngau ar-lein gan ofyn sut ddyfodol y mae pobl yn ei ragweld ar gyfer y diwydiant.

Daw’r ymchwiliad ar adeg pan fo chwech o drefi a dinasoedd yng Nghymru wedi’u henwi fel canolfannau posibl ar gyfer cenhedlaeth newydd o orsafoedd teledu lleol, pan fu ITV a BBC Cymru yn lleihau’u cyllidebau’n gyson ar gyfer rhaglenni teledu lleol a phan fo papurau newydd lleol yn parhau i wynebu anawsterau.

“Mae’n arwyddocaol bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn awr gan fod prinder arian ac ansicrwydd yn parhau i greu anawsterau i’r diwydiant cyfryngau yng Nghymru,” meddai Ken Skates AC, Cadeirydd y grwp gorchwyl a gorffen.

“Mae cwmpas ein hymchwiliad yn fwriadol eang gan fod gwaith ymchwil yn awgrymu nad oes unrhyw un ateb i’r problemau sy’n wynebu’r sector.”

“Hoffem glywed gan unrhyw un sydd naill ai ynghlwm wrth y cyfryngau yng Nghymru neu sydd â barn am y diwydiant hwnnw, a hynny ar lefel gymunedol neu genedlaethol, ac yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar y diwydiant.

“Mae cael sector cyfryngau cynaliadwy, creadigol a gwybodus yn hanfodol i’n cymdeithas a bydd gennym ddiddordeb mawr yn yr hyn y bydd gan bobl i’w ddweud.”