Rhaid i Lywodraeth y DU gyfathrebu’n well â Chymru os yw ei chynigion deddfwriaethol ar gyfer Brexit am lwyddo

Cyhoeddwyd 19/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/06/2017

Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud digon i ymgynghori â’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru wrth baratoi ei chynigion ar gyfer Bil y Diddymu Mawr, y dull arfaethedig ar gyfer troi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd i gyfraith y DU, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi nodi pedwar o gasgliadau allweddol yn dilyn ymchwiliad ganddo.

Y casgliad cyntaf yw nad yw Llywodraeth y DU wedi ymgynghori’n ystyrlon â Gweinidogion Cymru, ac nad yw wedi ymgynghori o gwbl â’r Cynulliad o ran ei baratoadau i ddeddfu ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hyn yn annerbyniol, yn ôl y Pwyllgor, ac mae’n disgwyl i Lywodraeth newydd y DU ymgysylltu’n fwy adeiladol.

Yn ail, mae’r Pwyllgor o’r farn mai’r Cynulliad yn unig a ddylai ddirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru, gosod y rheolaethau ar gyfer eu defnyddio a sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried offerynnau deddfwriaethol sydd eu hangen er mwyn gweithredu’r pwerau hynny.

“Mae gan gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer Bil y Diddymu Mawr oblygiadau mawr i Gymru. Er mai bwriad y Bil arfaethedig hwn yw dod â’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd i ben, mae hefyd yn codi cwestiynau mawr o ran ffurf undeb arall o genhedloedd yn y dyfodol: y Deyrnas Unedig,” meddai David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol.

O ran faint o ymgynghori a fu, dywedodd:

“Rydym yn pryderu ynghylch y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi ymgynghori mewn ffordd ystyrlon â Llywodraeth Cymru a’i bod wedi anwybyddu’r rôl bwysig y bydd gan y Cynulliad i’w chwarae o ran deddfu ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.”

Daw’r Pwyllgor hefyd i’r casgliad bod yn rhaid i benderfyniadau am fframweithiau polisi’r DU yn gyfan yn y dyfodol gael eu cytuno rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau a’r deddfwrfeydd datganoledig. Ni ddylid eu gosod gan Lywodraeth y DU, hyd yn oed ar sail amser cyfyngedig.

Yn olaf, mae’r Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid a dinasyddion drwy gydol y broses o adael yr UE, a’r cyfraniad hanfodol y gallant ei wneud.

Dywedodd David Rees: “Rydym yn cydnabod maint yr sydd o’n blaenau ac rydym yn barod i chwarae’n rhan i wneud y newidiadau deddfwriaethol y bydd eu hangen i sicrhau bod gennym gyfreithiau y mae modd eu gweithredu wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU ar ei newydd wedd yn cymryd ein pryderon o ddifrif ac yn ymdrechu fwy fyth i gyfathrebu â Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad, ystyried eu safbwyntiau, a gweithredu yn dilyn sylwadau ynghylch meysydd y mae’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt.

“Mae’n bwysig nad ydym yn colli golwg yn y broses hon ar y ffaith y bydd y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn y cyfnod hwn yn cael effaith uniongyrchol a pharhaus ar fywydau pobl.”

 

Darllen yr adroddiad llawn:

Papur Gwyn ar Fil y Diddymu Mawr: Goblygiadau i Gymru (PDF, 685 KB)