Pwyllgor y Cynulliad yn galw am ragor o arian i’r Rheilffyrdd

Cyhoeddwyd 21/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad yn galw am ragor o arian i’r Rheilffyrdd

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gynllunio i dalu am y seilwaith sydd ei angen i ymdopi â’r defnydd ychwanegol  a wneir o reilffyrdd Cymru yn y dyfodol yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.   

Mae’r adroddiad am ddyfodol rheilffyrdd Cymru yng Nghymru, yn edrych ar bob agwedd ar y rheilffyrdd gan gynnwys cerbydau, gorsafoedd, cludo nwyddau a’r seilwaith. Casglodd y Pwyllgor dystiolaeth gan nifer o gyrff ar ddechrau tymor yr hydref. Yn benodol, bu’n trafod Papur Gwyn Llywodraeth y DU, Delivering a Sustainable Railway ac Asesu Cynlluniau Rheilffyrdd Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2007 a’u goblygiadau i Gymru.

Penderfynodd y Pwyllgor fod yr amcangyfrifon yng nghyswllt nifer y bobl a fydd yn teithio ar reilffyrdd Cymru, ac yn enwedig yn ardal Caerdydd, hyd at 2014 a’r tu hwnt, yn debygol o ragori ar y lefelau a nodwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ac, felly, bydd angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru ychwanegu at fuddsoddiad yr Adran Drafnidiaeth i ateb y galw.

Yn ôl yr adroddiad, dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd roi mwy o sylw i annog cwmnïau i ddefnyddio’r rheilffyrdd yn hytrach na’r ffyrdd i gludo nwyddau, ond dylid cynllunio hyn yn ofalus i sicrhau nad yw’n effeithio ar wasanaethau i deithwyr.

Dyma rai o’r argymhellion eraill:

  • gwella’r gwasanaethau sy’n rhedeg drwy Heol y Frenhines yng Nghaerdydd;

  • cynhyrchu cynllun cerbydau sy’n amlinellu sut y gall cerbydau newydd wella’r gwasanaeth;

  • gwella cyfleusterau parcio i bobl sy’n teithio ar y rheilffordd

  • gwella safon gorsafoedd Cymru .

Dywedodd Gareth Jones, Cadeirydd y Pwyllgor: “Er mai ymchwiliad cymharol fyr oedd hwn, cawsom gyfle i archwilio nifer o faterion yn ystod ein sesiynau tystiolaeth. Daeth yn amlwg i ni fod amcangyfrifon yr Adran Drafnidiaeth o’r twf yn nifer y teithwyr ar y rheilffordd yn llawer rhy isel yn ei Manyleb Cynnyrch Lefel Uchel ac, felly, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn buddsoddi arian ychwanegol er mwyn datblygu’r gwasanaeth rheilffordd sydd ei angen ar Gymru i hybu twf economaidd ac i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.”

Yr Adroddiad