O 300 i 60: Cyhoeddi Canlyniadau Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 01/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw, cyhoeddodd Senedd Ieuenctid Cymru ganlyniadau ei hail etholiad ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Roedd bron i 300 o ymgeiswyr yn cystadlu am 60 sedd; gwelodd pob etholaeth yng Nghymru frwydr i gynrychioli’r ardal. Cafodd miloedd o bleidleisiau eu bwrw ar-lein gan bobl ifanc yn ystod tair wythnos yr ymgyrch.

Yn yr un modd â Senedd Ieuenctid Cymru gyntaf yn 2018-20, cafodd y 40 sedd etholaethol eu penderfynu gan bleidleisiau pobl ifanc. Sefydliadau partner a ddewisodd yr 20 Aelod arall, i sicrhau cynrychiolaeth i grwpiau amrywiol o bobl ifanc.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd i’w seddi yn ffurfiol yn y flwyddyn newydd. Dyna pryd y byddant yn cwrdd â’i gilydd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf yn y Senedd i ddechrau eu cyfnod o gynrychioli plant 11-17 oed.

Rhwng 2021 a 2023, sef eu tymor yn y Senedd Ieuenctid, bydd yr Aelodau’n hoelio eu sylw ar dri mater blaenoriaeth. Mae'r rhain yn cyfuno blaenoriaethau’r ymgeiswyr eu hunain â materion mae pobl ifanc wedi’u codi mewn sgyrsiau a gynhaliwyd mewn ysgolion a digwyddiadau allanol a thrwy gyflwyniadau ar-lein.

Drwy gwrdd yn rheolaidd, ymgynghori a phobl ifanc a thrwy arwain ymchwiliadau, byddent yn trafod y materion sydd o bwys i bobl ifanc er mwyn dwyn sylw gwleidyddion etholedig y Senedd.  

Dywedodd Qahira Shah, Aelod newydd y Senedd Ieuenctid Cymru dros Dde Caerdydd a Phenarth, “Pan ddarganfyddais i fy mod wedi ennill, doeddwn i methu credu’r peth! Mis o ddisgwyl a hwn oedd y newyddion gorau posib!  

“Roedd ymgyrchu yn agoriad llygaid. Mentrais i mewn i sefyllfaoedd anghyffredin fel siarad â fy mlwyddyn ysgol a mynd drws i ddrws yn fy nghymuned yn chwilio am bleidleiswyr. 

“Mae gennyf i gymaint o syniadau rydw i'n edrych ‘mlaen i drafod â fy nghyd-Aelodau. Dwi’n ysu i weld newidiadau yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc; boed yn faterion amgylcheddol neu daclo anghyfartaledd cymdeithas, mae rhoi llais i bobl di-lais yn hollbwysig a byddwn ni ddim yn gweld gwelliant tan ein bod yn gwrando a gweithredu. 

“Mae’r ymgyrchu a phleidleisio wedi dod i ben ond rydw i ond jest yn dechrau!”

Dywedodd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r 60 Aelod newydd o Senedd Ieuenctid Cymru a fydd yn cynrychioli lleisiau pobl ifanc yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae pobl ifanc yn cyfrannu llawer i’n cymdeithas ac nid yw eu rhan yn ein gwlad damaid yn llai na rhan neb arall - mae’n hanfodol bod ganddyn nhw gyfle i gymryd rhan yn ein democratiaeth. 

“Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn llwyfan gwych ar gyfer lleisiau a safbwyntiau sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu. Mae'n caniatáu i bobl ifanc Cymru osod yr agenda a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

“Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau a etholir heddiw yn glod i’w hetholwyr a phob person ifanc ledled Cymru yn ystod y tymor hwn.”