Galw am hunaniaeth Gymreig glir ar gyfer y diwydiant bwyd a diod ar ôl Brexit

Cyhoeddwyd 18/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/06/2019

Mae adroddiad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu hunaniaeth Gymreig glir ar gyfer y diwydiant bwyd a diod.

Yn ei ymchwiliad i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ar ôl Brexit, bu’r Pwyllgor yn edrych ar bryderon ynghylch brandio a marchnata, cyllido a gweithlu mudol yr UE sy’n ganolog i’r diwydiant bwyd yng Nghymru.

Diogelu brand Cymreig

Mae’r Pwyllgor yn galw am ddatblygu hunaniaeth Gymreig gref, i werthu stori Cymru fel cynhyrchydd bwyd o ansawdd rhagorol. Bydd hyn o gymorth i’r diwydiant oresgyn yr heriau y mae’n eu hwynebu ar ôl Brexit.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor ei bod yn ymddangos bod Brexit wedi cael effaith negyddol ar enw da’r DU mewn llawer o wledydd, yn enwedig yn Ewrop. Yn y marchnadoedd hyn, bydd yn bwysig cynnal hunaniaeth ‘Gymreig’, yn hytrach na hunaniaeth y ‘DU’ ar ôl Brexit. Mae’r Pwyllgor yn derbyn y gall hunaniaeth y DU fod yn fodd o gael mynediad at farchnadoedd byd-eang newydd, ond dylid canolbwyntio ar yr hunaniaeth Gymreig o ran marchnadoedd sydd eisoes wedi’u sefydlu.

Amlygwyd bod y cynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig yr UE, a elwir hefyd yn Ddynodiadau Daearyddol (GI), yn ysgogiad allweddol ar gyfer gwerthu o ran y sector bwyd yng Nghymru. Amcangyfrifir bod statws Enw Bwyd Gwarchodedig yn cynyddu gwerth cynnyrch. Awgrymodd Hybu Cig Cymru fod 25 y cant o’r twf mewn allforion cig oen rhwng 2003 a 2012 i’w briodoli’n uniongyrchol i statws GI Cig Oen Cymru.

Ar hyn o bryd mae 16 o gynhyrchion Cymreig wedi’u cofrestru o dan gynllun yr UE, gan gynnwys cig oen Cymreig, cig eidion Cymreig, Halen Môr Môn (Halen Môn) a Chaws Caerffili Traddodiadol Cymru.

Y farchnad lafur ar ôl Brexit

Mae mynediad at lafur yn her allweddol i’r diwydiant bwyd a diod, a chlywodd y Pwyllgor fod busnesau ar hyn o bryd yn dibynnu llawer ar weithwyr mudol o’r Undeb Ewropeaidd. Byddai newidiadau arfaethedig i’r polisi mewnfudo ar ôl Brexit yn arwain at system llawer mwy cyfyngol ar gyfer gweithwyr mudol yr UE sydd â llai o sgiliau. Dywedodd cynhyrchwyr bwyd wrth y Pwyllgor eu bod yn poeni am effaith bosibl y newidiadau hyn, a allai arwain at brinder sylweddol o weithwyr yn eu diwydiannau.

Roedd hyn yn bryder arbennig i’r diwydiant prosesu cig, lle amcangyfrifir bod dros 50 y cant o’r gweithlu mewn rhai cyfleusterau prosesu mawr yn weithwyr mudol, yn bennaf o’r UE. Mae’r Pwyllgor yn clywed amcangyfrifon fod 95 y cant o filfeddygon sy’n gweithio yn y sector hylendid cig yn dod o dramor. Mae’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch hefyd yn ddibynnol iawn ar weithwyr mudol yr UE.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei safbwynt ar un system fewnfudo arfaethedig newydd Llywodraeth y DU ac i egluro’r effaith y mae’n disgwyl i’r cynigion hyn eu cael ar y diwydiant bwyd a diod.

Dywedodd Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Rydym yn falch o’n diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac mae ein cynhyrchwyr yn rhan hanfodol o economi a diwylliant ein cenedl. Mae diogelu a gwella brand Cymreig clir yn bwysig ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn gwybod o ganlyniad i arolygon defnyddwyr y byddai 8 o bob 10 siopwr o Gymru bob amser yn prynu cynnyrch o Gymru pe bai’r pris yn iawn. Mae angen i ni sicrhau ei bod yn hawdd adnabod a chael gafael ar gynnyrch Cymreig, a hynny gartref ac yn rhyngwladol. Mae’r heriau yn sgîl Brexit yn rhoi rhagor o frys, hyd yn oed, yn hyn o beth.

“Mae’n aneglur sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i effaith cyfyngiadau ar fynediad i weithwyr mudol yr UE ar y diwydiannau hyn yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit ac yn y tymor byrrach.

“Mae ein pwyllgor wedi clywed rhywfaint o dystiolaeth ddefnyddiol, ond tystiolaeth sy’n creu pryder hefyd, gan gynrychiolwyr y diwydiant, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb. Mae angen sicrwydd ar fusnesau bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymateb i’w pryderon a bod ganddynt strategaeth glir ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Gwyn Howells o Hybu Cig Cymru:

“Mae’n hanfodol i’r diwydiant cig coch fod brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu hamddiffyn ar unwaith, ac yn ddi-dor, ar ôl Brexit.

“Gallai effaith Brexit ar y cyflenwad llafur mewn cyfleusterau prosesu fod yn eithaf sylweddol o ystyried y ddibyniaeth ar weithwyr mudol. Mewn rhai cyfleusterau prosesu mawr yng Nghymru, mae dros 50 y cant o’r gweithlu yn weithwyr mudol, yn bennaf o’r UE. Mae arnom angen system fewnfudo yn y dyfodol sy’n seiliedig ar y gallu i ddod o hyd i waith, a fydd yn cynnwys nid yn unig y gweithlu sydd â sgiliau ond y gweithlu heb sgiliau.

“Bydd yn anodd iawn cael gweithwyr brodorol i gymryd lle gweithwyr mudol yr UE, am ei bod yn ymddangos eu bod yn anfodlon gweithio mewn lladd-dai a gweithfeydd torri cig. Lle bu problemau tebyg yng Ngweriniaeth Iwerddon, cyflwynwyd cynllun i ddenu gweithwyr o wledydd De America i weithfeydd prosesu. Efallai y bydd angen i Lywodraeth y DU ystyried cyflwyno cynllun tebyg,” ychwanegodd. 

Clywodd y Pwyllgor gan amrywiaeth eang o gynrychiolwyr o’r sector bwyd a’r sector lletygarwch yn ystod ei ymchwiliad, gan gynnwys Hybu Cig Cymru, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Cynghrair Twristiaeth Cymru ac UK Hospitality Wales.

 


  Darllen yr adroddiad llawn:

 

Adroddiad ar Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru: Brandio a phrosesu bwyd (PDF, 2 MB)