Gallai Bil Gadael yr Undeb Ewropeaidd danseilio "ewyllys pobl Cymru"

Cyhoeddwyd 13/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/07/2017

Mewn ymateb i gyhoeddi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu am Ymadael), dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol:

"Dylai'r Bil hwn ymwneud â'r camau cyfreithiol y mae angen eu cymryd i adael yr Undeb Ewropeaidd. Pe bai hynny'n wir, a'i fod yn nodi proses sy'n ystyried y safbwyntiau adeiladol a fynegwyd gan bwyllgorau'r Cynulliad, yna rwy'n siwr y byddwn yn gwneud datganiad heddiw sy'n canolbwyntio ar y pwyntiau technegol y mae angen ymdrin â hwy wrth i'r Bil basio drwy'r Senedd.

"Ond ymddengys nad yw'r Bil hwn yn ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd yn unig. Ar y darlleniad cyntaf, mae'n ymddangos fel petai Llywodraeth y DU yn defnyddio gadael yr Undeb Ewropeaidd i atal y Cynulliad rhag defnyddio'r pwerau sydd ganddo ar hyn o bryd ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Gall hefyd baratoi'r ffordd i Lywodraeth y DU osod polisïau ar gyfer Cymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd - er enghraifft mewn amaethyddiaeth a physgodfeydd. Os, ar ôl dadansoddiad pellach, rydym yn dod i'r casgliad bod hyn yn wir, yna byddai'n bryder mawr. Byddai'n mynd yn groes i ganfyddiadau ein hadroddiad ar y Papur Gwyn sy'n gysylltiedig â'r Bil hwn.

"Fel y nodwyd yn ein hadroddiad diweddar, caiff y Bil hwn ei gyflwyno yn dilyn bron i ddim ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru a dim ymgynghoriad ymlaen llaw â'r Cynulliad. Os yw'r Bil hwn yn ceisio cyfyngu ar bwerau'r Cynulliad, yna gellid ystyried ei fod yn tanseilio datganoli ac ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru, fel y mynegwyd yn refferendwm 2011 ar bwerau deddfu llawn i Gymru.

"Byddwn yn edrych ar y Bil yn fanwl ac rydym yn bwriadu ymateb yn llawn yn yr hydref."

Mae'r Pwyllgor Materion Allanol wedi cyhoeddi adroddiad ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU yn deddfu dros y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r adroddiad hwn yn mynd i'r afael â'r materion datganoli a fydd yn codi wrth ddeddfu ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn nodi sut y gall y Cynulliad gyfrannu at y broses o ymadael.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo barn y Pwyllgor. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i adroddiad y Pwyllgor.

Mae'r Pwyllgor yn bwriadu lansio ymchwiliad i'r Bil yr wythnos nesaf ac mae'n debygol o geisio barn y cyhoedd yn ystod yr haf.