Datganiadau 90 eiliad yn bywiogi trafodion y Cynulliad

Cyhoeddwyd 03/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/11/2016


Mae Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn codi materion amserol mewn slotiau 90 eiliad newydd yn y Cyfarfod Llawn.

Mae'r fenter hon, a gynigiwyd gan Elin Jones AC, y Llywydd, ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Busnes, yn golygu bod cyfnod o bum munud yn cael ei neilltuo bob dydd Mercher er mwyn i o leiaf dri Aelod wneud datganiad.

Y Cynulliad yw'r ddeddfwrfa gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno'r drefn hon, sydd eisoes yn cael ei chynnig mewn seneddau eraill mewn gwledydd fel Awstralia a Chanada.

Caiff unrhyw Aelod wneud datganiad 90 eiliad ar unrhyw bwnc sy'n bwysig iddynt, a gellid defnyddio'r amser, er enghraifft, ar gyfer: 

  • trafod materion sy'n peri pryder i'w hetholwyr;
  • tynnu sylw at faterion lleol;
  • nodi dathliadau neu ddyddiadau pwysig; neu
  • dalu teyrngedau.

Os bydd nifer fawr o Aelodau'n gwneud cais i siarad ar yr un diwrnod, mae'r Llywydd yn defnyddio ei disgresiwn i ddewis o leiaf dri datganiad ar sail y wybodaeth a ddarparwyd.
 
Gwnaed datganiadau'r wythnos hon gan, Jeremy Miles AC Castell-nedd, a siaradodd am Waith Haearn Abaty Castell-nedd:

 

 

John Griffiths AC Dwyrain Casnewydd, a siarad am nodi 177 mlynedd ers Gwrthryfel y Siartwyr:

 

 

Caroline Jones AC Gorllewin De Cymru, a siaradodd am Ganolfan Hunan-gymorth Sandville yn Nhon Cynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr:

 

 

Dywedodd y Llywydd: "Un o fy mhrif amcanion ers cael fy ethol yn Llywydd yw bywiogi trafodion y Cyfarfod Llawn drwy neilltuo amser ar gyfer mathau newydd o fusnes.

"Rwyf eisoes wedi sicrhau cytundeb y Pwyllgor Busnes i roi cyfle i gadeiryddion pwyllgorau wneud datganiadau yn gynnar yn y broses o gynnal ymchwiliadau pwyllgor er mwyn codi ymwybyddiaeth a chynyddu cyfleoedd ymgysylltu.

"Mae Datganiadau Aelodau yn cael eu defnyddio'n eang yn seneddau eraill y Gymanwlad, yn bennaf i roi cyfle i Aelodau wneud datganiadau byr, heb rybudd, ar bwnc amserol neu fater sydd o ddiddordeb i'w hetholwyr neu i'r cyhoedd yn gyffredinol.

"Mae'r Cynulliad yn sefydliad democrataidd modern a dylem bob amser fod yn chwilio am gyfleoedd i wneud ein gwaith yn fwy perthnasol i bobl Cymru er mwyn eu cynnwys yn y gwaith hwn."