Datganiad gan y Llywydd (1)

Cyhoeddwyd 17/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2015

Datganiad gan Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd, mewn ymateb i James Bond yn ffilmio yn Siambr y Senedd

"Bu llawer o feirniadaeth ynghylch fy mhenderfyniad i beidio â chaniatáu i olygfa o'r ffilm James Bond gael ei ffilmio yn Siambr y Senedd.  Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn pan gafodd ei awgrymu i mi.  Yr wyf yn llwyr gydnabod bri a chyrhaeddiad masnachfraint James Bond ac rwy'n frwdfrydig i weld y Senedd yn parhau i chwarae ei ran wrth gefnogi diwydiannau creadigol Cymru.

"Fy nghyfrifoldeb i fel Llywydd yw gwneud penderfyniadau o'r fath.  Pan ofynnir i mi wneud penderfyniad, rhaid i mi bwyso a mesur y ffactorau sy'n ymwneud â phob cais.  Yn yr achos hwn, yn ogystal â chydnabod y manteision posibl, roedd hefyd rhaid ystyried graddfa debygol yr hyn a oedd yn cael ei gynnig a'r effaith debygol ar y Siambr, a hynny o ystyried nifer y bobl a'r offer sy'n rhan o gynhyrchiad o'r math hwn, a'r addasiadau a fyddai wedi cael eu gwneud i'r Siambr.  Cynigiwyd ardaloedd eraill yn y Senedd, ond gwrthodwyd y rhain.

"Ar y cyfan, roedd y risg i'r Siambr a'r tarfu posibl ar fusnes yn ormod.  Fel Llywydd, credaf fod angen diogelu a chynnal prif swyddogaeth Siambr y Senedd yn fwy na dim arall, felly mae'n rhaid trin y defnydd a wneir o'r Siambr yn wahanol i weddill ystâd y Cynulliad.  Nid yw hyn yn rhywbeth newydd; byddai caniatáu ffilmio o'r fath yn y Siambr wedi golygu newid yr arfer sydd wedi'i arddel ers agor y Senedd.

"Yr wyf yn siomedig bod y drafodaeth wedi darlunio'r Cynulliad fel corff nad yw'n agored i wneud busnes gyda diwydiannau creadigol.  Rydym wedi caniatáu i nifer o gynyrchiadau dramatig fel Doctor Who, Sherlock, Caerdydd a rhaglen 'Portrait Artist of the Year' Sky Arts gael eu ffilmio yma.  Rydym yn rhagweithiol wrth chwilio am gynyrchiadau a allai fod â diddordeb mewn lleoli rhywfaint o'u gweithgarwch ar ystâd y Cynulliad.

"Yn amlwg mae barn pobl yn amrywio'n fawr o ran a ddylid fod wedi caniatáu'r gwaith ffilmio hwn.  Rwyf yn dal at fy mhenderfyniad.  Cyfrifoldeb y Llywydd yw gwneud penderfyniad ystyriol a chytbwys ar ôl pwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol, a dyna beth wnes i."