Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad newydd

Cyhoeddwyd 10/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/05/2016

Bydd pob un o'r 60 Aelod yn cwrdd yng Nghyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol newydd, am 13.30 ar 11 Mai yn y Senedd.

Eitem fusnes gyntaf y Cynulliad newydd fydd ethol Llywydd. Rhaid ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd newydd yn ystod cyfarfod cyntaf y Cynulliad wedi’r etholiad, ac mae’n rhaid i hyn ddigwydd cyn pen saith diwrnod gwaith ar ôl diwrnod yr etholiad.

Os na fydd ond un enwebiad ar gyfer swydd y Llywydd, ac nad oes neb yn gwrthwynebu'r enwebiad hwnnw, daw'r Aelod hwnnw yn Llywydd. Os bydd mwy nag un Aelod yn cael ei enwebu, neu os oes gwrthwynebiad i'r un enwebiad a wnaed, cynhelir pleidlais gudd y tu allan i'r Siambr yn ardal Cwrt y Senedd.

Mae'r Llywydd yn dylanwadu ar bob agwedd ar y Cynulliad - o'i weithrediad o ddydd i ddydd a'r drefn arferol ar gyfer rheoli busnes, i'w ddatblygiad fel prif sefydliad democrataidd Cymru, ei safle yng nghyfansoddiad y DU a'i statws yn llygaid y cyhoedd.

Caniateir eitemau busnes eraill yn ystod y cyfarfod cyntaf, er enghraifft, ethol Prif Weinidog, o dan Reol Sefydlog 12.10. 

Bydd y Llywydd sydd newydd ei ethol yn penderfynu ar ddyddiadau'r Cyfarfodydd Llawn yn y dyfodol nes bod modd sefydlu Pwyllgor Busnes. Mae hyn yn ofynnol o dan Reolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol, sef y rheolau y mae'n rhaid eu dilyn wrth gynnal busnes y Cynulliad.

Gweithdrefnau ar gyfer ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd y Cynulliad

Agenda