Craffu ar Waith y Prif Weinidog yng Nghaerfyrddin

Cyhoeddwyd 03/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/02/2017

​Bydd un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, sef y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, yn cynnal cyfarfod yng Nghaerfyrddin i drafod tlodi ddydd Gwener, 17 Chwefror.

Bydd y cyfarfod yn dechrau am 11.00 ac fe’i cynhelir yng Nghanolfan yr Halliwell ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gyda Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, yn bresennol.

Cadeiryddion holl bwyllgorau craffu y Cynulliad Cenedlaethol yw aelodau’r Pwyllgor hwn, sy’n cyfarfod unwaith y tymor i holi’r Prif Weinidog ar amrywiaeth o bynciau.

Yn y cyfarfod hwn bydd sesiwn i drafod materion cyfoes a materion allweddol sydd o bwys yn yr ardal leol.

Dylai unrhyw un sydd am awgrymu mater i’w drafod gysylltu â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

"Dyma gyfle i geisio atebion gan y Prif Weinidog am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â thlodi ledled y wlad," meddai Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith Prif Weinidog.

"Mae’n fater sy’n effeithio ar ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd ac mae’n bwnc cymhleth sy’n cwmpasu iechyd, gofal cymdeithasol, yr economi, addysg a gwasanaethau cyhoeddus.

"Bydd gan aelodau’r Pwyllgor gyfle hefyd i godi pynciau amserol gyda’r Prif Weinidog, a gobeithio y bydd hyn yn dangos bod y Cynulliad o ddifrif o ran ei ddyletswydd i gynrychioli Cymru gyfan.

Gall pobl awgrymu pynciau naill ai drwy e-bostio CraffuPW@cynulliad.cymru, drwy drydar @CynulliadCymru, neu drwy bostio ar dudalen Facebook y Cynulliad.

Dylai unrhyw un sydd am fynd i’r cyfarfod archebu lle drwy gysylltu â llinell archebu’r Cynulliad ar 0300 200 6565, neu drwy anfon e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru.