Comisiwn y Senedd ymhlith y 10 cyflogwr gorau sy’n ystyriol o deuluoedd

Cyhoeddwyd 07/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/09/2020

Mae Comisiwn y Senedd wedi ennill canmoliaeth fel gweithle sy’n ystyriol o deuluoedd ac sy’n cefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau fel rhieni a gofalwyr.

Mae'r elusen Working Families wedi cynnwys y Senedd ymhlith y 10 Cyflogwr Gorau i Deuluoedd sy’n Gweithio ar gyfer 2020. Mae'r meincnod yn cydnabod cyflogwyr ledled y DU sy'n ymdrechu i helpu rhieni a gofalwyr i gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Comisiwn y Senedd sy’n cyflogi gweithwyr sy'n gweinyddu ac yn cefnogi gwaith y senedd, o glercio a gweinyddu'r Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd y Pwyllgorau, i wasanaethau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, digwyddiadau i’r cyhoedd, a diogelwch a rheoli adeiladau'r Senedd.

Dywedodd Lowri Williams, Pennaeth Gwasanaethau Adnoddau Dynol a Chynhwysiant, ac Uwch Hyrwyddwr rhwydwaith rhieni a gofalwyr y Senedd, Teulu; “Rydym yn ymdrechu i ddarparu cefnogaeth sy'n caniatáu i'n gweithwyr gynnal cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith er budd eu hiechyd, eu perthynas â’u teuluoedd a'u bodlonrwydd yn y gwaith, felly mae'n anrhydedd derbyn y gydnabyddiaeth hon fel un o'r 10 Cyflogwr Gorau i Deuluoedd sy’n Gweithio. Mae'n arbennig hefyd ei dderbyn yn ystod cyfnod o ansicrwydd cenedlaethol sydd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar weithwyr sydd wedi cynnal eu hymrwymiad i’w gwaith tra’n delio gyda cyfrifoldebau gofal ychwanegol."

Meriel Singleton yw Cadeirydd Teulu, y rhwydwaith mewnol sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr sy'n gweithio i’r Comisiwn ac sy’n darparu cyfle i drafod materion a allai effeithio arnynt. Dywedodd Meriel; “Rwy’n wirioneddol credu, fel rhiant sy’n gweithio, fod y diwylliant cefnogol a chynhwysol sy’n bodoli yn y Senedd wedi fy helpu drwy ysgwyddo baich yr heriau niferus a ddaw yn sgil jyglo bod yn riant a dilyn gyrfa foddhaus - ac mae hynny’n wir yn gyffredinol, nid yn unig yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf sydd wedi bod yn gyfnod hynod heriol.”

Working Families yw elusen cydbwysedd bywyd a gwaith y DU sy'n helpu rhieni a gofalwyr sy'n gweithio - a'u cyflogwyr - i ddod o hyd i ffydd well o gynnal cydbwysedd iach rhwng cyfrifoldebau yn y cartref ac yn y gweithle.