Carreg Filltir Hanesyddol i’r Gymraeg ym Mrwsel

Cyhoeddwyd 28/11/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Carreg Filltir Hanesyddol i’r Gymraeg ym Mrwsel  

Ddydd Mercher 26 Tachwedd, crëwyd hanes gan Nerys Evans, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan mai hi oedd y person cyntaf i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun swyddogol ym Mhwyllgor y Rhanbarthau ym Mrwsel.  

Y Pwyllgor yw’r cynulliad gwleidyddol Ewropeaidd ar gyfer awdurdodau lleol a rhanbarthol ym Mrwsel, ac roedd Nerys Evans AC yn siarad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar wahoddiad Llywydd y Pwyllgor, Luc Van den Brande.

Mae’r Gymraeg yn ymuno â’r Fasgeg, y Gatalaneg a’r Galiseg o ran cael statws arbennig ym Mrwsel, sy’n caniatáu i gynrychiolwyr gwleidyddol o’r gwledydd hyn ddefnyddio’u hiaith frodorol yn ystod cyfarfodydd swyddogol ym Mhwyllgor y Rhanbarthau ac yng Nghyngor y Gweinidogion.            

Daw’r cytundeb hwn lai nag wythnos ar ôl i Alun Ffred Jones, Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cynulliad Cymru, ddefnyddio’r Gymraeg am y tro cyntaf yng nghyfarfod o Weinidogion Diwylliant yr UE ym Mrwsel, lle'r oedd yn cynrychioli Llywodraeth y DU.  

Mae gan Gymru bedwar cynrychiolydd ar Bwyllgor y Rhanbarthau, dau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Christine Chapman a Nerys Evans) a dau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Robert Bright ac, i’w gadarnhau’n fuan, Chris Holley, arweinydd Cyngor Dinas Abertawe).

Dywedodd Nerys Evans AC “Dyma garreg filltir bwysig i’r Gymraeg wrth iddi gymryd ei phriod le ymysg ieithoedd eraill Ewrop.  Mae pwysigrwydd cynyddol amlieithrwydd ar draws Ewrop a’r cydraddoldeb a roddir i ieithoedd ar y llwyfan Ewropeaidd yn amlygu dylanwad cynyddol democratiaethau llai ar draws Ewrop.     

Dywedodd Luc Van den Brande, Llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau: “Yn ein Cyfarfod Llawn ar 26 a 27 Tachwedd byddwn yn cael ein hymyrraeth gyntaf yn Gymraeg ym Mhwyllgor y Rhanbarthau diolch i gytundeb rhwng y pwyllgor a Llywodraeth y DU.

“Rwyf yn arbennig o falch gan fod Pwyllgor y Rhanbarthau yn credu’n gryf yn yr egwyddor o amlieithrwydd a phwysigrwydd ieithoedd rhanbarthol, hefyd o fewn Sefydliadau’r UE. Gobeithiaf yn fawr y bydd Aelodau’r pwyllgor o Gymru yn gwneud defnydd da o’r posibilrwydd newydd hwn.”

NODIADAU GOLYGYDD

Ceir mwy o wybodaeth am Bwyllgor y Rhanbarthau (yn Saesneg yn unig) ar y wefan ganlynol: European Union - Committee of the Regions

Nerys Evans, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan mai hi oedd y person cyntaf i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun swyddogol ym Mhwyllgor y Rhanbarthau ym Mrwsel.