Adroddiad Archwilio yn galw am fwy o gynnydd o ran cyrraedd targedau arbed ynni yn ymddiriedolaethau GIG Cymru

Cyhoeddwyd 04/10/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad Archwilio yn galw am fwy o gynnydd o ran cyrraedd targedau arbed ynni yn ymddiriedolaethau GIG Cymru

Mae angen i ymddiriedolaethau GIG Cymru wneud mwy o gynnydd er mwyn cyrraedd eu targedau yn ymwneud ag ynni, ac mae gan y datblygiadau cyfredol ar draws y gwasanaeth y potensial i gyflawni gwelliannau sylweddol mewn perfformiad ynni, yn ôl adroddiad archwilio newydd. Mae adroddiad Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad ar reoli ynni’r GIG yng Nghymru, a gyhoeddir heddiw, (dydd Mercher 4 Hydref) yn dweud bod ymddiriedolaethau GIG wedi wynebu cynnydd sylweddol yn eu costau ynni ers 2004,  ond ni fu’r cynnydd hwn yn ffactor sylweddol i gyfyngu ar allu’r ymddiriedolaethau i weithredu o fewn eu cyllidebau.        Mae caffael cyflenwadau ynni’n ganolog yn fodd o wneud defnydd da o arbenigedd prin caffael ynni, ond mae’n rhy fuan i ddweud a fydd newid mewn strategaeth brynu, mewn ymateb i brisiau cyfnewidiol ynni, yn arwain at werth gwell am arian.       Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, yn cynnwys datblygu targedau newydd ar gyfer carbon deuocsid sy’n cael ei ryddhau, creu ynni ar y safle o wres a phwer cyfunedig a ffynonellau ynni adnewyddadwy, a chaffael trydan gwyrdd o ffynonellau allanol.                         Mae’r adroddiad hefyd yn argymell sefydlu systemau eglur i fonitro a gwerthuso effaith y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer mesurau arbed ynni o fewn y GIG.