Clywed yr ifanc: lleisiau plant a phobl ifanc yn COP26

Cyhoeddwyd 25/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/11/2021   |   Amser darllen munudau

Roedd yn fraint clywed Al Gore yn ei anerchiad yng nghynhadledd COP26 ddydd Gwener 5 Tachwedd yn trafod yr holl waith yr oedd angen i arweinwyr y byd a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ei wneud i sicrhau nad yw’r gwres byd-eang yn cynyddu’n fwy na 1.5 gradd. Ond er i mi fyfyrio ar ei eiriau, allwn i ddim peidio meddwl: ble mae'r plant a'r bobl ifanc yn hyn i gyd? Pam nad oes ganddyn nhw sedd wrth y bwrdd trafod? Wedi'r cyfan, bydd beth bynnag a gyflawnir – neu nas cyflawnir – yn dilyn COP26 yn sicr o effeithio arnyn nhw yn fwy na neb arall.

Cawsom wybod pam gan un aelod ysbrydoledig o'r panel ifanc, Clover Hogan. Yn hanesyddol, mae pobl ifanc wedi'u heithrio o'r mannau hyn.

Aeth ymlaen i ddweud:

"Beth am ichi edrych o’ch cwmpas nawr a gofyn ble mae'r bobl ifanc. Yr ydym allan, ar y strydoedd, yn protestio. Rydyn ni'n protestio am ein bod ni'n flin."

Ac roedd hi'n gywir. Ar yr union adeg honno, roedd miloedd o blant a phobl ifanc wrthi’n gorymdeithio yng nghanol dinas Glasgow, yn mynnu bod eu harweinwyr yn gwneud mwy i achub y blaned.

Roedd person ifanc ysbrydoledig arall, Greta Thunberg, yn dweud wrth y gorymdeithwyr hynny mai methiant oedd COP26. "Dylai fod yn amlwg na allwn ddatrys yr argyfwng gyda'r un dulliau a'n harweiniodd i’r picil yn y lle cyntaf", meddai.

Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, fe wnaeth Greta Thunberg, ynghyd â 13 o bobl ifanc ysbrydoledig eraill, gyflwyno deiseb i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, yn gofyn iddo ef ac arweinwyr holl asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig ddatgan argyfwng systematig y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas ag argyfwng yr hinsawdd. Yn union fel y gwnaethant mewn perthynas ag argyfwng COVID-19.

Wrth gwrs, roeddwn i’n gwybod cyn i mi fynd i gynhadledd COP26 fod gan blant a phobl ifanc ddigon i'w ddweud am newid hinsawdd. Ond yr hyn a adawodd ei farc arnaf yn fwy na dim arall y diwrnod hwnnw oedd eu bod yn haeddu mwy na bod yn rhan o ryw fath o ymgynghoriad. Nid yw'n ddigon i'r rheini ohonom mewn swyddi â grym wneud dim ond gwrando. Rhaid inni gynnwys y bobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau, a rhaid inni weithredu ar yr hyn a ddywedant hefyd.

Dyma'n union y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ymrwymo i'w wneud drwy gydol y Chweched Senedd. Yn ein cynllun strategol, y byddwn yn ei gyhoeddi'n fuan, rydym yn datgan:

"Bydd lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein gwaith craffu. Byddwn yn defnyddio ffyrdd newydd ac arloesol i wrando ar y rhai sydd anoddaf i'w cyrraedd."

Mae hwn yn ddatganiad sylweddol ac uchelgeisiol. Mae'n golygu y bydd yn rhaid inni fod yn fwy beiddgar na’r arfer. Byddwn yn rhoi cynnig ar bethau newydd, a bydd rhai o'r pethau hynny'n gweithio'n well nag eraill.

Ni allaf addo y byddwn yn gwneud pethau'n iawn drwy'r amser. Ond gallaf addo y byddwn ni fel Pwyllgor yn gwneud popeth o fewn ein gallu fel nad oes rhaid i blant a phobl ifanc orymdeithio yn y strydoedd i gael sedd wrth y bwrdd.

Jayne Bryant AS

Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cymryd rhan

Ar hyn o bryd rydym wrthi’n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ledled Cymru i ofyn iddynt beth y maent yn credu ddylai’r Pwyllgor ei flaenoriaethu dros y blynyddoedd nesaf. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn drwy gysylltu â SeneddPlant@Senedd.Cymru, neu drwy ymweld â'n gwefan.

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am gyfarfodydd, ymchwiliadau a gwaith arall sydd ar y gweill ar Twitter. Dilynwch ni @SeneddPlant.

Rydym bob amser yn croesawu unrhyw sylwadau ynghylch unrhyw beth sy'n dod o fewn ein cylch gwaith. Cysylltwch â ni drwy e-bost (SeneddPlant@Senedd.Cymru) neu ar Twitter.