A Oes Mynediad Cyfartal at Addysg a Gofal Plant i BOB Plentyn yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 19/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/04/2024   |   Amser darllen munudau

Ym mis Mai 2023, lansiodd Pwyllgor Plant y Senedd ymchwiliad i'r cwestiwn; ‘A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant’?

Roedd clywed gan deuluoedd a gaiff eu heffeithio’n uniongyrchol gan faterion yn gysylltiedig â'u hawl i gael mynediad at addysg, yn rhan annatod o ymchwiliad y Pwyllgor.

Awgrymodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion, sy'n cynorthwyo Pwyllgorau'r Senedd i gynnwys pobl â phrofiad byw, gynnal cyfweliadau manwl â theuluoedd, gyda rhieni, gofalwyr a phlant anabl.

Yn y post hwn, byddwn yn edrych yn fanylach ar yr hyn oedd gan y teuluoedd, gofalwyr a phlant i'w ddweud am eu profiadau.

Ymgysylltu

Methodoleg a hygyrchedd

Cynhaliodd y tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfweliadau anffurfiol â phob teulu i holi am eu profiadau diweddar o ran addysg a gofal plant.

Cafodd y tîm ei arwain gan gyfranogwyr i rymuso'r teulu cyfan i gymryd rhan, er enghraifft, gallai cyfranogwyr ddewis a hoffent gwrdd yn rhithiol neu mewn lleoliad penodol, ac roedd y tîm yn ystyried galluoedd dysgu'r plant i sicrhau eu bod yn gallu rhannu eu barn lle bo hynny'n bosibl. Hefyd, lle'r oedd yn briodol, defnyddiwyd gêm o Jenga wrth gyfweld â phlant ifanc fel ffordd hygyrch a hwyliog o gyflwyno pwyntiau trafod.

Sampl

Cysylltodd 59 o deuluoedd â’r Senedd i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan.

Cysylltwyd â’r holl deuluoedd hyn a'u gwahodd i gymryd rhan.

Cymerodd 40 o deuluoedd ran mewn cyfweliadau teuluol (cyfanswm o 42 o oedolion a 17 o blant).

Roedd y rhai a gymerodd ran yn dod o 20 o’r 22 o ardaloedd Awdurdodau Lleol Cymru.

Canlyniad

Ar ôl pob cyfweliad teuluol, ysgrifennwyd nodyn gair am air gan sicrhau bod y cyfranwyr yn anhysbys. Dadansoddwyd pob nodyn a chrëwyd adroddiad yn crynhoi'r themâu allweddol a gododd yn y sgyrsiau.

Disgrifiodd teuluoedd broblemau negyddol yn bennaf a gafodd effaith arnynt mewn llawer o wahanol feysydd o ran gofal plant a bywyd ysgol. Maent yn gysylltiedig yn bennaf â:

  • Diffyg cynhwysiant

“Maen nhw bob amser yn dweud ei fod yn ddrwg, ond mae hynny'n fy ypsetio oherwydd dyw e ddim yn ddrwg, mae’n awtistig.” – Rhiant

“Nid yw erioed wedi cael addysg Gymraeg – oherwydd ei fod yn fyddar.” – Rhiant

  • Mynediad cyfyngedig i gyfleoedd; neu

“Nid yw cyrsiau preswyl yn hygyrch i fy mab. Does dim clwb brecwast, does dim clybiau ar ôl ysgol a hyd yn oed nawr does dim ysgol haf. Does dim byd ychwanegol i’r rhai sydd ag anghenion cymhleth.” - Rhiant plentyn â pharlys yr ymennydd

  • Effaith negyddol ar holl aelodau'r teulu

“Roedd fel pe bai’r ysgol ddim yn meddwl fy mod yn gyflogedig. Roedden nhw’n disgwyl i mi ofalu am fy mhlentyn pan benderfynon nhw dros nos na allen nhw ei gael yn yr ysgol.”  - Rhiant

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn neu'r adroddiad hawdd ei ddarllen yma.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae gwaith y Pwyllgor yn parhau. Disgwylir i adroddiad llawn o ganfyddiadau'r holl dystiolaeth a glywodd yr Aelodau gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2024.

Mae'r Pwyllgor yn parhau i glywed gan deuluoedd a gaiff eu heffeithio gan faterion sy'n ymwneud â'r ymchwiliad hwn trwy gyfarfod â grŵp cynghori ar-lein.

Sefydlwyd y grŵp cynghori ar-lein, sy'n cynnwys pobl sydd â phrofiad byw o'r materion yn ymwneud â chael mynediad at ofal plant ac addysg i drafod y dystiolaeth a gafwyd. Mae wedi cwrdd dair gwaith a bydd yn cwrdd eto yn ystod y misoedd nesaf.

Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Darllenwch am yr ymchwiliad ar dudalen yr ymchwiliad.

Dilynwch @SeneddPlant i gael newyddion rheolaidd am yr ymchwiliad hwn.