Pobl y Senedd

Heledd Fychan AS

Heledd Fychan AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa gamau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod absenoldebau dysgwyr mewn ysgolion yn lleihau?

Wedi'i gyflwyno ar 30/04/2024

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu: a) nad yw'r Prif Weinidog wedi dychwelyd y rhodd i Dauson Environmental; a b) nad yw'r Blaid Lafur wedi ymrwymo i ddychwelyd...

I'w drafod ar 26/04/2024

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at absenoldeb gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol cynhwysfawr yng Nghymru. Yn credu bod pob unigolyn, beth bynnag fo'u hu...

I'w drafod ar 26/04/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ynglŷn a’r adolygiad diogelu unedig sengl a’r prosesau cysylltiedig?

Wedi'i gyflwyno ar 24/04/2024

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o faint ac effaith economaidd sectorau diwylliannol, celfyddydol a threftadaeth ein cenedl?

Wedi'i gyflwyno ar 24/04/2024

Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyfraniad o £200,000 a wnaed i'r Prif Weinidog yn ystod etholiad arweinyddiaeth Llafur Cymru, a'i ddatganiad ar Gofrestr Buddiannau'r Aelod. 2. Yn credu...

I'w drafod ar 24/04/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Heledd Fychan AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Prif ddiddordebau Heledd yw diwylliant, hanes a threftadaeth; sicrhau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a diddymu tlodi plant; a sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Hanes personol

Magwyd Heledd yn Ynys Mon, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, gan ddod yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor. Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd gyda ei gwr, a’u mab.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol, roedd Heledd wedi bod yn gweithio ers deuddeg mlynedd i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu yn aelod o Fwrdd y Museums Association gan gadeirio eu Pwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’u Pwyllgor Cenhedloedd a’u cynrychioli fel siaradwraig wadd mewn nifer o gynhadleddau rhyngwladol. Cyn hynny, bu Heledd yn gweithio i grwp Plaid Cymru yn San Steffan.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd Heledd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Ers cael ei hethol, mae wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd blaenllaw yn lleol gan gynnwys galw am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn erbyn newidiadau i ysgolion yn ardal Pontypridd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Heledd Fychan AS