Cynorthwyydd Seneddol i Laura Jones AS
Ystod cyflog: £24,143 - £35,388 pro rata
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd cyflog uchaf y raddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37
Lleoliad: Casnewydd
Natur y penodiad: Parhaol
Cyf: MBS-111-23
Diben y swydd
Darparu gwasanaethau gweinyddol, ymchwil a gwaith achos o safon uchel i’r Aelod ar amrywiaeth eang o bynciau, gan sicrhau y caiff safonau cyfrinachedd eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
1. Cymryd cyfrifoldeb unigol dros ddarparu gwaith ymchwil a gwybodaeth amserol o ansawdd uchel ar amrywiaeth eang o bynciau
2. Darparu papurau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelod i ymdrin â gwaith achos yr etholaeth neu i helpu i lywio trafodaethau
3. Darparu gwaith ymchwil o ansawdd uchel mewn ymateb i ymholiadau, yn unol â chyfarwyddyd yr Aelod o’r Senedd
4. Datblygu a defnyddio eich hunan-gymhelliant er mwyn parhau i wneud gwaith ymchwil yn annibynnol
5. Datblygu perthynas effeithiol â chydweithwyr o wahanol feysydd gwasanaeth ar draws y Senedd, a chydweithio gyda nhw
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
• Profiad perthnasol mewn ymchwil a/neu waith achos
• Profiad o weithio'n uniongyrchol gydag etholwyr yn ogystal â phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur
• Profiad o ddarparu deunydd ymchwil, gwaith achos neu ddeunydd briffio mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg
• Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
Cymwysterau Hanfodol
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
• Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Edward.Sumner@senedd.cymru
Dyddiad cau: 23:59 09 Ebrill 2024,
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau