A allaf gael galwedigaeth neu benodiad allanol fel cyflogai?

Cyhoeddwyd 01/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Fel cyflogai, rhaid i chi geisio caniatâd gan berson dynodedig cyn derbyn unrhyw gyflogaeth allanol.

Ni ddylech:

 

  • ar unrhyw adeg, ymgymryd ag unrhyw weithgaredd a fyddai'n gwrthdaro â'ch dyletswyddau fel cyflogai'r Comisiwn, oni bai eich bod wedi cael caniatâd i wneud hynny;
  • ymgymryd ag unrhyw waith neu weithgaredd arall allai wrthdaro mewn unrhyw fodd â buddiannau’r Senedd neu'r Comisiwn, nac a fyddai'n anghyson â'ch rôl fel cyflogai'r Comisiwn; 
  • ymgymryd ag unrhyw weithgaredd allanol y cewch eich talu amdano sy'n manteisio ar brofiad neu wybodaeth a gawsoch drwy gyflawni dyletswyddau swyddogol, heb gael caniatâd i wneud hynny.

 Os ydych yn dymuno gwneud cais am benodiad i unrhyw fwrdd neu gorff cyhoeddus a ariennir yn gyfan gwbl neu'n rhannol o arian cyhoeddus, rhaid i chi geisio caniatâd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, neu os hoffech gael copi llawn o’r Cod Ymddygiad, cysylltwch â'r tîm recriwtio drwy anfon neges at swyddi@senedd.cymru