Datganiad a Chyhoeddiad Busnes  30/04/2024

Cyhoeddwyd 30/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

Dydd Mawrth 7 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                               

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Senedd yn 25 (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Blaenoriaethau ar gyfer newid hinsawdd a materion gwledig (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio gyda llywodraeth leol i ddarparu mwy o dai fforddiadwy (45 munud)
  • Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 (5 munud)
  • Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):
    • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 1
    • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 2

 

 

Dydd Mercher 8 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth  

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (30 munud)

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan - dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1392: Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Alun Davies AS (Blaenau Gwent) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 14 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                              

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol: cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Dyfodol ffermio yng Nghymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar: Gwella iechyd meddwl yng Nghymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Ein gweledigaeth ar gyfer gofal maeth yng Nghymru (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (30 munud)

 

Dydd Mercher 15 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 

Busnes y Senedd  

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Cefin Campbell AS (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 21 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth  

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru (30 munud)

 

Dydd Mercher 22 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar Ddeiseb P-06-1407: Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Joyce Watson AS (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)