Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 21 Mehefin 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mike German (Dwyrain De Cymru): Pryd y mae'r Gweinidog yn bwriadu llenwi swyddi gwag Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. (WAQ56110)
Rhoddwyd
ateb ar 28 Mehefin 2010
Mae ymarfer cystadleuaeth agored, yn unol â'n gweithdrefnau penodiadau cyhoeddus, yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i lenwi'r swyddi gwag presennol ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rwy'n gobeithio y caiff y penodiadau newydd eu gwneud ym mis Gorffennaf.