'Y Senedd a Fi' sesiwn gwers cyfan (CA 3, 4 & 5)

Cyhoeddwyd 04/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/05/2024   |   Amser darllen munudau

Addas ar gyfer: Disgyblion Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7 – 13)

Hyd: Gwers lawn – p'un a yw eich gwersi ysgol yn 50 munud neu 1 awr, bydd ein swyddog yn gallu darparu ar gyfer hyn.

Sesiwn ar gael ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Lleoliad: Yn eich Ysgol - mae gennym swyddogion ar gael ym mhob ardal yng Nghymru. Pan fyddwch yn archebu, bydd eich swyddog agosaf yn cael y sesiwn ac yn ymweld â'ch ysgol.

£ Am ddim

 

Gwybodaeth

Ymunwch â ni mewn sesiwn gwers lawn i ddysgu am y Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru. Dyma gyfle i'r bobl ifanc ddysgu beth yw'r Senedd a'r Senedd Ieuenctid, pwy sy'n eu cynrychioli a sut i leisio eu barn yn y Senedd. Dyma gyfle hefyd i drafod pam mae democratiaeth yn bwysig i bobl ifanc Cymru.

 

Mae'r sesiwn yn cefnogi ymarferwyr mewn sawl un o'r chwe Maes Dysgu, yn enwedig y Dyniaethau ac Ieithoedd a Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae'n berthnasol i themâu cynefin/ardal a Chymru yn ogystal â themâu sy'n ymwneud â phŵer y Senedd e.e. yr amgylchedd neu fyw'n iach.

 

Archebu

Gallwch archebu eich sesiwn drwy ein ffurflen archebu. Gofynnwch am eich dyddiad dewisol a bydd ein tîm archebu mewn cysylltiad i gwblhau eich archeb. 

 

Ffurflen archebu