Biliau Aelod: Sut fyddech chi'n newid y gyfraith?

Cyhoeddwyd 11/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/01/2017

Rydw i'n edrych ymlaen at ddau gyhoeddiad ar hyn o bryd: cyhoeddi enillydd balot Bil Aelod cyntaf y Pumed Cynulliad, a chyhoeddi'r enwau a dynnir allan o'r het ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2019. Cyn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bûm yn gweithio yn Japan am ddwy flynedd, felly ddweud yn saff y bydd Cwpan Rygbi'r Byd yn anhygoel. Ond ta waeth am hynny - dyma sôn am Filiau Aelod. Cynigir y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru. Ond os bydd Aelod Unigol yn ennill y balot ar gyfer cyflwyno Bil Aelod (a benderfynir ar sail tynnu enwau allan o het), bydd cyfle ganddo i gyflwyno ei ddeddfwriaeth arfaethedig ei hun. Gall unrhyw un gynnig syniadau i Aelod Cynulliad ynghylch cyflwyno deddfwriaeth. Mae gennych 5 Aelod Cynulliad yn eich cynrychioli: ydych chi'n gwybod pwy ydyn nhw? Yna, bydd yr Aelod Cynulliad sy'n ennill y balot yn gallu galw ar Aelodau eraill i gefnogi ei gynnig, gan wneud hynny drwy bleidlais. Os cefnogir ei gynnig, bydd gan enillydd y balot 13 mis i ddatblygu ei ddeddfwriaeth arfaethedig, a'i gyflwyno gerbron y Cynulliad i'w graffu a'i ddiwygio. Yn ystod y broses hon, bydd enillydd y balot fel arfer yn cael ei gefnogi gan dîm bychan o bobl - rydw i'n rhan o'r tîm hwnnw - er mwyn datblygu eu deddfwriaeth arfaethedig. Rydym yn helpu trwy ddarparu cyngor o ran gweithdrefnau, ymchwil a chyfraith. Ar 25 Ionawr 2017, tynnir enw Aelod allan o het yn y balot, a chaiff yr enillydd gyfle i gynnig deddfwriaeth newydd, a allai effeithio ar fywydau miliynau o bobl ledled Cymru. Dysgwch ragor. Gan Tom Jackson, Clerc, y Tîm Cymorth Craffu