Rhestr termau

Rhestr termau seneddol

Mynegai A-Y o dermau

Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau

RH

Tymor

Rhanbarthau

At ddibenion etholiadau’r Senedd, mae Cymru wedi’i rhannu’n bum rhanbarth: Dwyrain De Cymru; Canol De Cymru; Gorllewin De Cymru; Canolbarth a Gorllewin Cymru; Gogledd Cymru Mae pob rhanbarth yn ethol pedwar Aelod drwy gyfrwng system cynrychiolaeth gyfrannol, sef System Aelodau Ychwanegol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Rheol 21 diwrnod

Rhaid gosod is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol gerbron y Senedd o leiaf 21 diwrnod cyn iddi ddod i rym. Os caiff y rheol hon ei thorri, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru hysbysu'r Llywydd am y rhesymau dros dorri’r rheol, yn unol â Deddf Offerynnau Statudol 1946.

Diweddarwyd Ddiwethaf 18/05/2021

Chwilio am y term hwn

Tymor

Rheolau Sefydlog

Dyma’r rheolau ysgrifenedig sy’n llywodraethu trafodion y Senedd. Maent yn amlinellu sut y dylai’r Aelodau ymddwyn, sut y caiff Biliau eu prosesu a sut y caiff dadleuon eu trefnu.

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Ymddygiad, Rheolau a Chanllawiau

Chwilio am y term hwn