Swyddi Gwag Presennol

Mwy o wybodaeth

Gweithio i Aelod Senedd

Mae Aelodau'r Senedd hefyd yn gyflogwyr ac maent yn arferol yn cyflogi pobl yn eu hetholaethau ac ym Mae Caerdydd.

Pa fath o rolau y mae Aelodau'n recriwtio ar eu cyfer? 

  • Gweithiwr Achos / Uwch Weithiwr Achos
  • Rheolwr Swyddfa
  • Ymchwilydd / Uwch Ymchwilydd
  • Swyddog Cyfathrebu neu'r Cyfryngau
  • Uwch Gynghorwyr
  • Gweinyddwyr

"Gall gweithio i Aelod fod yn werth chweil, gan eich bod yn teimlo y gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gynorthwyo newid polisi ac ymdrin â materion sy’n peri pryder i etholwyr. Nid oes dau ddiwrnod yr un peth, mae angen ystod amrywiol o sgiliau ar gyfer ein swyddi ac mae cyfleoedd i dderbyn hyfforddiant priodol. Rwyf wedi mwynhau gweithio i Aelod yn fawr a byddwn yn ei argymell i unrhyw un. ”



Gweithio i Aelod Senedd

Fel aelod staff parhaol ac amser llawn bydd gennych 31 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn ac 11 diwrnod o wyliau cyhoeddus a gwyliau braint bob blwyddyn (os nad ydych yn gweithio oriau safonol byddwch yn cael hawl pro rata sy'n gymesur â'ch patrwm gwaith).