Cyfnod 1:

Penderfyniad ynghylch a yw'r Senedd yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil

Ar ddechrau Cyfnod 1 caiff Bill ei osod yn Swyddfa Gyflwyno'r Senedd gan yr Aelod sy'n gyfrifol (Gweinidog fel arfer). 'Gosod y Bil' yw'r enw ar hyn.

Bydd Pwyllgor Busnes y Senedd yn penderfynu a ddylid cyfeirio'r Bil at bwyllgor cyfrifol (a phennu terfyn amser i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad). Yna:

  • os caiff y Bil ei gyfeirio at bwyllgor cyfrifol, bydd y pwyllgor yn ymgynghori ac yn cymryd tystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Yna, bydd yn cyhoeddi 'adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil. Gall pwyllgorau eraill hefyd lunio adroddiadau ar y Bil. Yna, cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Senedd gyfan) ar yr egwyddorion cyffredinol y Bil, yn seiliedig ar yr adroddiadau hyn; neu
  • os na fydd y Bil yn cael ei gyfeirio at bwyllgor cyfrifol, bydd y Senedd yn symud yn syth at ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol y Bil.

Yn dilyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar egwyddorion cyffredinol y Bil, gofynnir i'r Aelodau gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol:

  • os bydd yr Aelodau'n derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd yn symud ymlaen i Gyfnod 2; neu
  • os na fydd yr Aelodau'n derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd y Bil yn methu.

Prif Ddiwrnod Penodedig​

Cyfnod 2:

Cyfnod diwygio

Gall Aelodau o'r Senedd ddechrau cyflwyno gwelliannau (cynnig newidiadau) i'r Bil cyn gynted ag y bydd Cyfnod 2 yn dechrau (y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau Cyfnod 1).

Cyn y gall pwyllgor ystyried y gwelliannau, rhaid i'r Senedd gytuno ar benderfyniad ariannol ar gyfer y Bil. Os na gytunir ar benderfyniad ariannol o fewn 6 mis i'r bleidlais Cyfnod 1, bydd y Bil yn methu. Yn aml, cytunir ar benderfyniadau ariannol ar yr un diwrnod â'r bleidlais Cyfnod 1.

Bydd pwyllgor yn trafod ac yn pleidleisio ar y gwelliannau. Dim ond Aelodau'r pwyllgor cyfrifol a gaiff bleidleisio ar y gwelliannau.

Ar ôl pleidleisio ar y gwelliant olaf, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 3.

Cyfnod 3:

Cyfnod diwygio

Cyfnod 3

Gall Aelodau o'r Senedd ddechrau cyflwyno gwelliannau (cynnig newidiadau) i'r Bil cyn gynted ag y bydd Cyfnod 3 yn dechrau (y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau Cyfnod 2).

Bydd yr Aelodau'n trafod ac yn pleidleisio ar y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Senedd gyfan).

Ar ôl pleidleisio ar y gwelliant olaf yng Nghyfnod 3, mae'r rhan fwyaf o Filiau yn symud ymlaen i Gyfnod 4.

Fodd bynnag, gellir cynnal cyfnodau diwygio ychwanegol hefyd, ac ar y pwynt hwn gall y Bil symud i Gyfnod 3 pellach neu Gyfnod Adrodd.

Cyfnod 3 pellach: cam diwygio dewisol

Ar ôl trafod yr holl welliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 3, caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu unrhyw aelod o’r Llywodraeth, gynnig bod y Senedd yn ystyried gwelliannau pellach i’r Bil mewn Cyfnod 3 pellach. Yna:

  • Os bydd y Senedd yn cytuno i wneud hynny, cynhelir Cyfnod 3 pellach; neu
  • os na fydd y Senedd yn cytuno, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 4 neu'r Cyfnod Adrodd

Dim ond yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu unrhyw aelod o’r Llywodraeth, a gaiff gyflwyno gwelliannau i’r Bil yn ystod Cyfnod 3 pellach. Dim ond er mwyn egluro darpariaeth mewn Bil, neu roi effaith i ymrwymiadau a wnaed yn ystod Cyfnod 3, y ceir cyflwyno gwelliannau o'r fath.

Bydd yr Aelodau'n trafod ac yn pleidleisio ar y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Senedd gyfan).

Ar ôl pleidleisio ar y gwelliant olaf, bydd y Bil:

  • yn symud ymlaen i Gyfnod 4; neu
  • yn symud ymlaen i'r Cyfnod Adrodd.

Y Cyfnod Adrodd: cam diwygio dewisol

Ar ôl cwblhau Cyfnod 3 (neu Gyfnod 3 pellach), caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil gynnig bod y Senedd yn ystyried gwelliannau pellach mewn Cyfnod Adrodd. Yna:

  • os bydd y Senedd yn cytuno i wneud hynny, cynhelir Cyfnod Adrodd; neu
  • os na fydd y Senedd yn cytuno, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 4.

Gall unrhyw Aelod gyflwyno gwelliannau i'r Bil yn ystod y Cyfnod Adrodd. Dim ond er mwyn egluro darpariaeth mewn Bil, neu roi effaith i ymrwymiadau a wnaed yn ystod Cyfnod 3, y ceir cyflwyno gwelliannau o'r fath.

Bydd yr Aelodau'n trafod ac yn pleidleisio ar y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Senedd gyfan).

Ar ôl pleidleisio ar y gwelliant olaf, bydd y Bil:

  • yn symud ymlaen i Gyfnod 4; neu
  • yn symud ymlaen i Gyfnod Adrodd pellach.

Cyfnod Adrodd pellach: cam diwygio dewisol

Ar ôl trafod yr holl welliannau a ddetholwyd yn y Cyfnod Adrodd, caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu unrhyw aelod o’r Llywodraeth, gynnig bod y Senedd yn ystyried gwelliannau pellach i’r Bil mewn Cyfnod Adrodd pellach. Yna:

  • os bydd y Senedd yn cytuno i wneud hynny, cynhelir Cyfnod Adrodd pellach; neu
  • os na fydd y Senedd yn cytuno, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 4.

Dim ond yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu unrhyw aelod o’r Llywodraeth, a gaiff gyflwyno gwelliannau i’r Bil yn ystod Cyfnod Adrodd pellach. Dim ond er mwyn egluro darpariaeth mewn Bil, neu roi effaith i ymrwymiadau a wnaed yn ystod y Cyfnod Adrodd, y ceir cyflwyno gwelliannau o'r fath.

Bydd yr Aelodau'n trafod ac yn pleidleisio ar y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Senedd gyfan).

Ar ôl pleidleisio ar y gwelliant olaf, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 4.

Cyfnod 4:

Penderfynu a ddylid pasio'r Bil

Ar ôl y ddadl yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Senedd gyfan), bydd yr Aelodau'n pleidleisio ynghylch a ydynt am basio'r Bil:

  • os bydd y Senedd yn cytuno i basio'r Bil, bydd yn symud i'r cyfnod 'Ar ôl Cyfnod 4'.
  • os na fydd y Senedd yn cytuno, bydd y Bil yn methu.

Ar ôl Cyfnod 4:

Aros am Gydsyniad Brenhinol

Ar ôl i'r Senedd basio Bil, mae cyfnod o bedair wythnos lle mae'r canlynol yn digwydd:

  • caiff y Cwnsler Cyffredinol neu'r Twrnai Cyffredinol gyfeirio'r cwestiwn a yw'r Bil, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo, yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, i'r Goruchaf Lys am benderfyniad; a
  • chaiff Ysgrifennydd Gwladol Cymru wneud gorchymyn yn gwahardd y Bil rhag cael ei anfon i gael Cydsyniad Brenhinol.

Os na chaiff y Bil ei herio yn y fath fodd, bydd yn symud ymlaen i gael Cydsyniad Brenhinol.

Cydsyniad Brenhinol

Pan fydd Bil wedi cwblhau'r holl gyfnodau deddfwriaethol, rhaid iddo gael Cydsyniad Brenhinol cyn dod yn Ddeddf gan Senedd Cymru (cyfraith).

Cydsyniad Brenhinol yw cytundeb y Brenin i wneud y Bil yn Ddeddf a mater o ffurf yw hyn.

Bydd y Clerc yn hysbysu’r Senedd am ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol drwy osod datganiad gerbron y Senedd.

Yn y Cyfarfod Llawn cyntaf (cyfarfod o'r Senedd gyfan) ar ôl i'r Clerc osod datganiad, bydd Llywydd y Senedd yn gwneud cyhoeddiad byr i ddweud y rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol.

Ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol

Bydd rhai o ddarpariaethau Deddf yn cychwyn ar unwaith, ar ôl cyfnod penodol, a bydd angen pasio is-ddeddfwriaeth ar gyfer rhai eraill (bydd pob Deddf yn nodi ei darpariaethau cychwyn).

Llywodraeth Cymru, nid y Senedd, sy'n gyfrifol am weithredu'r ddeddfwriaeth.

Fodd bynnag, gall un o bwyllgorau'r Senedd ddewis cynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol (archwiliad o'r broses o weithredu deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru).