Prif Ddiwrnod Penodedig​

Cyhoeddwyd 01/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/02/2024   |   Amser darllen munudau

Newidiodd Deddf Cymru 2017 gymhwysedd y Senedd o 'fodel rhoi pwerau' i 'fodel cadw pwerau’n ôl.

Daeth y model cadw pwerau’n ôl i rym ar Brif Ddiwrnod Penodedig, sef 1 Ebrill 2018.

Beth oedd ystyr hyn o ra​​n biliau a gyflwynir cyn y Prif Ddiwrnod Penodedig?​Mace

​​​​Mae Deddf Cymru 2017 yn darparu, os bydd y Senedd wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil (mae hyn yn digwydd ar ddiwedd 'Cyfnod 1' ym mhroses ddeddfwriaethol y Cynulliad) cyn y Prif Ddiwrnod Penodedig, bydd y ​​cwestiwn o ran a yw ei ddarpariaethau o fewn cymhwysedd ai peidio yn cael eu hystyried o dan y model rhoi pwerau presennol, o dan Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Os yw egwyddorion cyffredinol Bil yn cael eu cytuno ar y Prif Ddiwrnod Penodedig neu ar ei ôl, yna ystyrir ei ddarpariaethau o dan y model newydd cadw pwerau’n ôl o dan Ddeddf Cymru 2017.​

Pryd y gellid gwneud penderfyniadau ynghylch a yw Bil o fewn cymhwysedd y Senedd?

​​​Mae Adran 110 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn darparu na ellir cyflwyno Bil oni bai bod yr Aelod sy'n gyfrifol, a fydd yn Weinidog ar gyfer Biliau Llywodraeth Cymru, yn datgan y byddai'r Bil o fewn cymhwysedd.

Yn ych​​wanegol, pan gyflwynir Bil i'r Senedd, mae gan y Llywydd ddyletswydd statudol o dan adran 110 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA) i ddatgan a fyddai darpariaethau'r Bil, yn ei barn hi, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ai peidio. Fodd bynnag, nid yw barn y Llywydd ar gymhwysedd yn effeithio ar a gaiff Bil ei gyflwyno ai peidio.

Ar ôl ei gyflwyno, bydd Bil fel rheol yn destun ymchwiliad pwyllgor ar ei egwyddorion cyffredinol, ac yna bydd y pwyllgor yn ystyried​​ y gwelliannau, cyn ystyried y gwelliannau yng Nghyfarfod Llawn y Senedd ac yna bydd pleidlais derfynol, hefyd yn y Cyfarfod Llawn. Nid oes dim gofyniad statudol neu weithdrefnol ffurfiol ar gyfer edrych yn fanwl ar faterion sy'n ymwneud â chymhwysedd ar unrhyw gam o’r gwaith craffu ar ôl cyflwyno, ond gall Aelodau o'r Senedd edrych arnynt yn ystod y gwaith craffu.

​Yn olaf, ar ôl i’r Senedd basio Bil, mae cyfnod o bedair wythnos (fel y pennir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, Adran 112) pan fydd modd, ymysg camau gweithredu eraill sydd hefyd yn atal y Bil rhag cael ei gyflwyno ar gyfer Cydsyniad Brenhinol, i swyddogion cyfraith Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru (y Twrnai Cyffredinol a'r Cwnsler Cyffredinol yn y drefn honno) gyfeirio'r Bil at y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â’r cwestiwn o gymhwysedd.​